Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 12.00pm ar 16 Medi 2014 yn Nhŷ Hywel
YN BRESENNOL:
Janet Finch-Saunders AC (JFS) |
Cadeirydd |
Keith Davies AC (KD) |
Aelod |
Russell George AC (RG) |
|
Shane Brennan (SB) |
Cymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
Sophie Mew (SM) |
Ysgrifennydd |
Craig Lawson (CL) |
Suzy Davies AC |
Gareth Saunders (GS) |
Janet Finch-Saunders AC |
1. CYFLWYNIAD
Croesawodd y Cadeirydd bawb i Gyfarfod Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol a chyflwynodd SB a fyddai’n rhoi trosolwg o waith y Grŵp Trawsbleidiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
2. CYFLWYNIAD GAN GYMDEITHAS SIOPAU CYFLEUSTRA
Rhoddodd SB gyflwyniad ar waith y Grŵp Trawsbleidiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd sylw at y ffaith fod y Grŵp Trawsbleidiol wedi cynnal tri chyfarfod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod y Grŵp wedi cydlynu’r sesiwn ffotograffau Sadwrn Busnesau Bach ym mis Rhagfyr ac wedi cynnal derbyniad yn y Cynulliad ar 15 Gorffennaf.
Trafodaeth
Yn dilyn y cyflwyniad, trafodwyd nifer o faterion a chynigiwyd trafodaethau i’r Grŵp ar gyfer y dyfodol
Canol Trefi
Dywedodd KD wrth y Grŵp y byddai’n arwain dadl ar ganol trefi yng Nghynulliad Cymru, gan dynnu sylw at y broblem o barcio yng nghanol trefi. Cytunodd JFS i fod yn bresennol. Tynnodd SB sylw at waith y Gymdeithas Siopau Cyfleustra ar arfer gorau o ran rheoli parcio a CHYTUNWYD y byddai’r ddogfen hon yn cael ei dosbarthu i’r Grŵp.
Cynllunio
Cododd y Grŵp y mater o bolisi cynllunio. Amlygodd JFS y dylai’r Grŵp Trawsbleidiol edrych ar bolisi cynllunio a sut mae gwahanol ranbarthau Cymru yn cael eu heffeithio gan gynlluniau awdurdodau lleol. Awgrymwyd y dylai’r Grŵp Trawsbleidiol gynnal cyfarfodydd yng ngogledd Cymru a chanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod barn siopau bach ledled Cymru yn cael eu cynnwys wrth drafod polisi cynllunio. Cododd JFS y mater o ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd yng nghanol trefi a CHYTUNWYD y byddai hyn yn cael ei gynnwys mewn trafodaeth yn y dyfodol ar bolisi cynllunio.
Cyfarfodydd y dyfodol
Nodwyd y byddai adroddiad am ardrethi busnes yng Nghymru, ac awgrymwyd y pwnc fel y testun nesaf i’r grŵp ei drafod. Cynigiwyd Cynllunio hefyd fel problem.
Tynnodd JFS sylw at y mater o fagiau siopa a’r gwahaniaeth yn y tâl am fagiau papur a bagiau plastig, yn ogystal â manwerthwyr yn codi tâl am fagiau am oes lle nad yw’r tâl yn cael ei drosglwyddo i elusennau.
Cododd KD y mater o droseddau yn erbyn manwerthwyr bach a’r hyn y gellir ei wneud i ddatrys y broblem hon, a’i fod wedi gweithio gyda’r undeb llafur Usdaw ar ymgyrch i atal troseddau. Dywedodd SB fod y Gymdeithas Siopau Cyfleustra hefyd yn gweithio gydag Usdaw a bod presenoldeb yr heddlu yng nghanol trefi yn bwysig i atal troseddau. Awgrymodd RG y dylai’r Grŵp ysgrifennu at y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i alw am gymorth i siopau bach atal lladrata ac i edrych ar yr ymatebion; CYTUNWYD ar hyn.
3. ETHOLIADAU
Ail-etholwyd JFS yn unfrydol yn Gadeirydd gan y Grŵp Trawsbleidiol, gyda SM yn cael ei ethol yn unfrydol yn Ysgrifennydd.
Y camau nesaf
CYTUNWYD y byddai cyfarfod nesaf y Grŵp yn trafod ardrethi busnes yng Nghymru ac y byddent yn cysylltu â siaradwyr posibl.
CYTUNWYD hefyd y byddai’r Grŵp yn ysgrifennu at Gynulliad Cymru ynglŷn â’r mater o fagiau plastig ac yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am bolisi’r Llywodraeth.
Daeth JFS â’r cyfarfod i ben.